Croeso i MWMG...
Ynglšn â GGCC
Mae GGCC yn gwmni cyfyngedig preifat dielwân cael ei lywio gan Fwrdd Cyfarwyddwyr syân cael eu hethol oâr aelodaeth.
Ein Cenhadaeth:
I fod y rhwydwaith cymorth blaenllaw ar gyfer busnes syân seiliedig ar ddiwydiant yng Nghanolbarth Cymru.
Amcanion GrĹľp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru yn Ă´l ei ddiffiniad yn yr M&A
¡ Yn gyffredinol i hyrwyddoâr diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru.
¡ I wellaâr llwyddiant, ansawdd, proffidioldeb ac effeithiolrwydd yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.
¡ I hyrwyddo a gwella addysg, hyfforddiant a sgiliau pobl yng Nghymru.
¡ I hyrwyddo a gwella cyfathrebiadau ymhlith gweithgynhyrchwyr a rhyngddynt aâr gymuned gyfan.
¡ I weithredu fel rhyngwyneb gyda sefydliadau eraill er budd iâr gweithgynhyrchwyr.
¡ I fandio gweithgynhyrchwyr Cymru gydaâi gilydd er mwyn meithrin dealltwriaeth gydfuddiannol o weithgareddau ei gilydd i hwyluso cyfnewid gwybodaeth a throsglwyddo technoleg ac adnabod cyfleoedd i fasnachu rhwng aelodau a sefydliadau eraill boed yng Nghymru ai peidio.
Gwerthoedd
1. Darparu gwasanaeth proffesiynol i bob rhanddeiliaid mewnol ac allanol
2. I fod yn frocer gonest yn ein perthynas gydaâr aelodaeth.
3. I drin pobl ag ymddiriedaeth, uniondeb a gonestrwydd bob amser.
Ynglšn â GGCC & Hanes
Cafodd GrĹľp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, sydd wedi ei leoli yn Y Drenewydd, ei sefydlu yn 1994 fel sefydliad sy'n seiliedig ar aelodaeth i gefnogi cwmnĂŻau Gweithgynhyrchu a Pheirianyddol yn Rhanbarth y Canolbarth. Roedd y sefydliad dielw hwn, syân cael ei lywio gan gyfarwyddwyr gwirfoddol, ei gyllidoân gychwynnol drwy Fwrdd Datblygu Cymru Wledig. Gyda dros 100 o aelodau gwasanaeth o fusnesau micro i gwmnĂŻau yn cefnogi dros 500 o bobl ar draws llawer o ddiwydiannau o gynhyrchu bwyd i fodurol. Gyda dim ond dau aelod o staff ar hyn o bryd, maeâr sefydliad bach hwn yn sicr yn gwneud effaith yn ei rhanbarth.
Yna, drwy gyllid Ewropeaidd, gwelwyd y greadigaeth o sawl prosiect i gefnogiâr sector, gan gynnwys y Cynllun Prentisiaeth a Rennir sydd wedi ennill gwobrau, lle gwelwyd 70 o bobl ifanc yn cael eu cyflogi a threulio rhwng 6-12 mis mewn gwahanol leoliadau mewn cwmnĂŻau. Gweinyddwyd y cynllun am nifer o flynyddoedd ac mae anghenion sgiliauâr rhanbarth yn cadwân agos i galon y sefydliad.
Mae GGCC wedi ymgysylltu'n llwyddiannus â phlant o bob oed drwyâr defnydd o brosiectau STEM. Mae diwrnodau gweithgaredd fel gwneud rocedi, digwyddiadau swyddi a gyrfaoedd i gyd yn helpu i hyrwyddoâr buddiannau o weithio yn y sector iâr genhedlaeth nesaf. Mae ymgysylltu gyda phobl ifanc yn eu bywyd cynnar i ail-bwysleisio pwysigrwydd STEM yn flaenoriaeth i ni a fydd gobeithio yn arwain at linell o beirianwyr y dyfodol iâr rhanbarth.
Mynychom Ddigwyddiad Pontio Cenedlaethol [National Transition Event] yn ddiweddar a oedd wedi ei drefnu gan Mission Motorsport sy'n cynnig i'r rhai sy'n gadael y gwasanaeth, cyn-filwyr a'u partneriaid y cyfle i ddod o hyd i yrfaoedd tu hwnt iâr milwrol aâr hyn mae Canolbarth Cymru yn cynnig o ran cyflogaeth, tai ac ansawdd bywyd.
Ar Ă´l gwneud cais llwyddiannus am gyllid, mae llawer o gyfleoedd hyfforddi hefyd yn cael eu trefnu gan GGCC o sgiliau digidol, rheolaeth o iechyd meddwl yn y gweithle, arweinyddiaeth a rheolaeth i reoli stoc yn effeithiol.
Yn ychwanegol i gefnogi cwmnĂŻau gyda sgiliau a recriwtio, mae aelodaeth yn darparu mynediad uniongyrchol i arbenigedd ac yn arbed amser ac arian gwerthfawr ar gyfer cwmnĂŻau syân aelodau. Mae buddiannau eraill yn cynnwys gwasanaeth gwybodaeth i wneud cwmnĂŻau yn ymwybodol o gyfleoedd a chefnogaeth gan gynnwys grantiau, cyflwyniadau i aelodau eraill sydd wedi wynebu materion busnes tebyg, diweddariadau ar ddeddfwriaeth bresennol, ariannu am hyfforddiant, prosiectau cynhyrchiant a meincnodi, gweithdai, ymweliadau i ffatrĂŻoedd a digwyddiadau rhwydweithio.
Mae cynrychioliâr sector yn y rhanbarth yn chwarae rĂ´l allweddol i ein sefydliad. Rydym yn aelodau o Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, un o bedair partneriaeth ranbarthol yng Nghymru, yn gweithio i hybu buddsoddiad mewn sgiliau wrth ddatblygu atebion syân seiliedig yr angen lleol a rhanbarthol. Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn drefniant rhanbarthol rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Maeâr bartneriaeth yn ceisio cynrychioli diddordebau a blaenoriaethauâr rhanbarth ar gyfer gwelliannau i ein heconomi leol, aâr Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd newydd ei ffurfio i Bowys.
Mae hwn yn amser cyffrous iâr rhanbarth, gyda chyllid wedi ei gytuno I Ddel Tyfu Canolbarth Cymru aâr Gronfa Ffyniant Gyffredin, maeâr cyfle nawr ar gael i fynd iâr afael â phryderon allweddol y gymuned fusnes gan gynnwys gofynion eiddo masnachol a sgiliau.
Ein Staff
Ceri Stephens, Rheolwr GrĹľp
Mae Ceri wedi bod gydaâr GGCC ers ffurfioâr Cynllun Prentisiaeth a Rennir yn 1997. Yn ystod yr amser hwnnw mae hi wedi helpu llawer oân haelodau o gyrchu defnyddiau i sefydlu cadwyni cyflenwi lleol. Heddiw, mae Ceriân gyfrifol am arolygu prosiectauâr GrĹľp a dosbarthuâr strategaeth ar ran Bwrdd y Cyfarwyddwyr.
Samantha Webber MBE, Cydlynydd GrĹľp
Mae Sam wedi bod gyda GGCC ers mis Tachwedd 2013 ar Ă´l gyrfa hir o fewn y Lluoedd Arfog. Mae hi wedi ymuno gyda ni o gefndir o Logisteg, wedi gwasanaethu mewn llawer o rannau yn y byd yn ystod gweithrediadau heddychlon a gwrthdaro. Gwnaeth Sam setlo yng Nghanolbarth Cymru gydaâi theulu a nawr yn gyfrifol am Weinyddiad y GrĹľp o ganlyniad i gyflawni Prosiect y Lluoedd Arfog yn llwyddiannus.
Aelodaeth
Mae aelodaeth yn costio dim ond ÂŁ50 y flwyddyn ac yn cynnig llawer o fuddion gan gynnwys:-
Ymweliadau a Gweithdai e.e. Teithiau o amgylch ffatrĂŻoedd, Diweddariadau Banc Lloegr, Diweddariadau AD
Ymrwymiad a Chynrychiolaeth - Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau yn cynrychioli safbwyntiauâr aelodau gan gynnwys Llywodraethau Cymru aâr DU, Awdurdodau Lleol a Chyrff Dyfarnu Grantiau.
Hyfforddiant - Rydym yn hwyluso hyfforddiant a rennir rhwng aelodau a hefyd yn trefnu cyrsiau rheolaidd.
Hyrwyddo Swyddi - Rhannu manylion oâch swyddi gwag trwy ein tudalen swyddi a phlatfformau ar y cyfryngau cymdeithasol, mynychu ffeiriau swyddi rhanbarthol i hyrwyddo swyddi gwag a chyfleoedd sector.
Hyrwyddoâr Sector i Ysgolion Lleol a mynd iâr afael ag anghenion sgiliau - i sicrhau pib linell y dyfodol o bobl gyda sgiliau syân galluogiâr sector i dyfu.
Datblyguâr Cadwynau Cyflenwi - Maeâr cyfeiriadur aelodau yn adnodd gwerthfawr ac mae eich mynediad iddo am ddim fel aelod.
Manteision Cost ac Atebion - Gydaâr manteision a ddaw o aelodaeth, bydd gennych fynediad i gefnogaeth TG, Cyfnewid tramor ar gyfer busnes, tiliau talu EPOS, morgeisi masnachol a benthyciadau busnes, peiriannau cerdyn ar gost isel, atebion ynni busnes ac atebion cyllid asedau.
I geisio am aelodaeth, a wnewch chi gwblhauâr ffurflen isod, os gwelwch yn dda?