English   |   Cymraeg
A A A

Chwilio'r Wefan:

Handling Objections, Negotiating and Closing the Sale Accredited by the Institute of Sales and Marketing Management 11th & 12th April 2012, Newtown.........Handling Objections, Negotiating and Closing the Sale Accredited by the Institute of Sales and Marketing Management 11th & 12th April 2012, Newtown.........Handling Objections, Negotiating and Closing the Sale Accredited by the Institute of Sales and Marketing Management 11th & 12th April 2012, Newtown.........


Telerau ac Amodau

Croeso i’n gwefan. Os byddwch yn dal i bori a defnyddio’r wefan hon, byddwch yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau ac amodau defnyddio a ganlyn ac i gael eich rhwymo ganddynt. Y telerau ac amodau hyn, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, sy’n rheoli perthynas MWMG â chi ynglŷn â’r wefan hon. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, gofynnir i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

Mae’r term ‘Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru/Mid Wales Manufacturing Group/MWMG’ neu ‘ni/ein’ yn cyfeirio at berchennog y wefan. Mae ein swyddfa gofrestredig yn Uned 7, Parc Technoleg St Giles, y Drenewydd, Powys  SY16 3AJ. Rhif cofrestru ein cwmni yw 2922322. Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at y sawl sy’n defnyddio neu’n gweld ein gwefan.

Dyma’r telerau ar gyfer defnyddio’r wefan hon:

·        Er eich gwybodaeth a’ch defnydd cyffredinol chi yn unig y mae cynnwys y tudalennau ar y wefan hon. Gellir ei newid heb rybudd.

·        Nid ydym ni na neb arall yn rhoi gwarant na sicrwydd bod yr wybodaeth na’r defnyddiau a welir neu a gynigir ar y wefan hon yn gywir, yn amserol, yn gweithio, yn gyflawn nac yn addas at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gall yr wybodaeth a’r defnyddiau hynny gynnwys elfennau anghywir neu wallau ac yr ydym yn ymwrthod, yn benodol, ag atebolrwydd dros elfennau anghywir neu wallau fel hyn i’r graddau y caniateir hynny gan y gyfraith.

·        Rhaid i chi gymryd y risg yn llwyr os byddwch yn defnyddio rhyw wybodaeth neu ddefnyddiau ar y wefan hon ac ni fyddwn ni’n atebol am hynny. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy’r wefan hon yn bodloni’ch gofynion penodol chi.

·        Ceir defnyddiau ar y wefan hon yr ydym ni’n berchen arnynt neu’n dal trwydded ar eu cyfer. Mae’r defnyddiau hyn yn cynnwys dyluniad, gosodiad, golwg, ymddangosiad a graffeg y wefan, ymhlith pethau eraill. Ni chaniateir eu hatgynhyrchu ac eithrio yn unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n rhan o’r telerau ac amodau hyn.

·        Caiff pob nod masnach a atgynhyrchir ar y wefan hon, nad yw’n eiddo i’r gweithredwr ac nad oes ganddo drwydded ar ei gyfer, ei gydnabod ar y wefan.

·        Os gwneir defnydd o’r wefan hon heb awdurdod, gellir hawlio iawndal a/neu gall fod yn dramgwydd troseddol.

·        O bryd i’w gilydd, gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill. Rhoddir y dolenni hyn er hwylustod i chi er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth. Nid oes sicrwydd ein bod yn cymeradwyo’r (g)wefan(nau). Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y (g)wefan(nau) y ceir dolen iddi/iddynt.

·        Mae’r defnydd a wnewch chi o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n codi o’r defnydd hwnnw o’r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.