At Eich Gwasanaeth
Mae MWMG yn fudiad gweithgar sy’n cael ei lywio gan ei aelodau ac yn cynnig nifer o wahanol wasanaethau. Caiff yr aelodau eu hannog i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Grŵp i’w helpu i ddatblygu a thyfu.
Mae’r Grŵp nid-er-elw, a sefydlwyd ym 1994, yn gwmni cyfyngedig sy’n eiddo i’r aelodau. Isod, ceir rhestr o rai o’r gwasanaethau a gynigir i’r aelodau. Os hoffech weld rhestr o’r cyfarfodydd a’r gweithdai sydd wedi’u trefnu, ewch i’r dudalen Digwyddiadau.
Deddfwriaeth ac Arferion Gorau
Mae’r Grŵp yn rhoi gwybod i’w aelodau am ddeddfwriaeth gyfredol ac am yr arferion gorau wrth redeg busnes gweithgynhyrchu. Mae’n gwneud hyn trwy gynnal gweithdai gan arbenigwyr ar wahanol themâu, trwy gynnal cyfarfodydd rhwydweithio sy’n rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth, a thrwy gynnig cymorth unigol i’r aelodau dros y ffôn neu drwy e-bost. Cewch fanylion am y digwyddiadau a’r cyfarfodydd ar y dudalen Digwyddiadau. Os hoffech gymorth unigol, gallwch ffonio 01686 628778.
Llinell Gymorth
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i’r holl aelodau yn unigol. Cysylltwch â ni i ddweud beth yw’ch cwestiwn neu’ch problem ac fe wnawn ni dreulio amser yn chwilio am ateb. Cryfder mwyaf y Grŵp yw’r wybodaeth sydd gan yr aelodau. Mae gan bron i 200 o gwmnïau gyfoeth o wybodaeth mewn gwahanol feysydd e.e. lle i gael pethau anghyffredin, neu sut i gynnal a chadw darnau o offer. Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â chwmni a all ateb eich cwestiwn, un o asiantaethau’r llywodraeth neu ffynhonnell wybodaeth arall. Cewch ffonio neu e-bostio. Sylwch: Gwasanaeth yw hwn ar gyfer cwmnïau sy’n aelodau neu rai sy’n dymuno cysylltu ag aelod.
Cynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol – Sgiliau: Cyngor, Arweiniad a Chyllid
Ers mis Medi 08, mae’r Grŵp yn cynnig cymorth trwy ‘Raglen Datblygu’r Gweithlu’ Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Gall un o gynghorwyr y Grŵp helpu cwmnïau i:
• Adolygu’r strategaeth er mwyn sicrhau bod gwaith datblygu a hyfforddi staff yn helpu i gyflawni amcanion y busnes
• Pennu’r gofynion o ran hyfforddi a datblygu
• Helpu i ganfod y cyrff hyfforddi mwyaf addas
• Helpu’r cwmni i weithio tuag at gyrraedd safon Buddsoddwyr mewn Pobl
• Canfod y cymorth ariannol mwyaf manteisiol i ddiwallu anghenion hyfforddi a datblygu’r cwmni a’i helpu i’w sicrhau.
Cynllun Grantiau Arddangos a Mentora y DU
Ym mis Medi, bydd y Grŵp yn lansio’i raglen grantiau gyntaf i helpu busnesau gweithgynhyrchu bach i fynd i sioeau yn y DU i arddangos eu cynnyrch. Mae’r rhaglen yn cael cyllid gan Gynllun Datblygu Gwledig 2007-2013 a Chyngor Sir Powys a bydd yn rhedeg am dros ddwy flynedd.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’r busnesau:
• Fod yn weithgynhyrchwyr â’u canolfan ym Mhowys
• Cyflogi 10 neu lai o staff
• Dymuno mynd i arddangosfa neu sioe yn y DU i ddangos eu cynnyrch
• Gallu cyflwyno achos busnes wedi’i seilio ar y gwerthiant posibl o ganlyniad i fynd i’r sioe.
Yn gyfnewid am hynny, rhoddir cyngor am y ffordd orau i arddangos a rhoddir 70% o gostau llogi stondin, taliadau mynediad a pheth defnydd hyrwyddo hyd at gyfanswm o £5000. I gael rhagor o fanlynion, cysylltwch â’r swyddfa.
Gyrfa mewn Gweithgynhyrchu
Yn 2003, cyhoeddodd y Grŵp daflen ar yrfaoedd ym maes gweithgynhyrchu sydd ar gael i holl ysgolion a cholegau’r Canolbarth. Mae’r daflen yn cynnwys astudiaethau achos o bobl a addysgwyd yn y Canolbarth ac sy’n mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus mewn cwmnïau gweithgynhyrchu yn yr ardal erbyn hyn. Mae’n cadarnhau’r llu o sgyrsiau a roddwn mewn ysgolion lleol bob blwyddyn yn sôn am y cyfleoedd am yrfaoedd sydd i’w cael mewn cwmnïau gweithgynhyrchu. Nod y rhan hon o’n gwasanaeth yw sicrhau bod pobl ifanc ddawnus yn dal i fwynhau gyrfaoedd da ym maes gweithgynhyrchu. Yn ogystal, mae pobl sydd â sgiliau mewn gwahanol feysydd yn aml yn cysylltu â ni i ddweud eu bod yn chwilio am waith yn y Canolbarth. Os oes modd, rydym yn eu rhoi mewn cysylltiad ag un neu fwy o’n haelodau ni a all fod yn chwilio am sgiliau o’r fath.
Gweithio i Weithgynhyrchwyr
Mae’r Grŵp hwn yn un o’r ychydig gyrff yn y sector preifat yn y Canolbarth sy’n cyflogi staff llawn amser ac yn casglu sylwadau a phryderon yr aelodau. Felly, mae gennym lais cryf wrth siarad â’r llywodraeth a’i hasiantaethau. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â gwleidyddion lleol a phrif weithredwyr asiantaethau cymorth busnes sy’n cael eu cyllido gan y llywodraeth. Rydym yn gweithio ar ran ein haelodau, yn arbennig i ddadlau dros gwneud y Canolbarth yn fwy hygyrch – o ran cludo pobl a nwyddau ar y ffyrdd ac o ran sicrhau gwasanaeth ffonau symudol a chysylltiadau band eang.
Cyhoeddiadau
Bob blwyddyn, mae’r Grŵp yn cyhoeddi Cyfeiriadur sy’n cynnwys manylion yr holl gwmnïau sy’n aelodau, eu cynnyrch, eu prosesau a’u marchnadoedd. Mae copïau ar gael o’n swyddfa ni neu gellir gweld fersiwn wedi’i ddiweddaru ar dudalen y Cyfeiriadur Aelodau.
Yn ogystal, mae’r Grŵp yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol o’r enw ‘Manufacturing Matters’. Mae copïau ar gael o’r swyddfa ac mae’r storïau sydd ynddo (a llawer o rai eraill) i’w gweld ar y dudalen Newyddion Diweddaraf ar y wefan hon.







