English   |   Cymraeg
A A A

Chwilio'r Wefan:

Market Intelligence 18th June Brecon, Newtown & Aberystwyth..............Introduction to Exporting & Factory Tour 15th May WPG Welshpool, 16th May GSM Brecon............Market Intelligence 18th June Brecon, Newtown & Aberystwyth..............Introduction to Exporting & Factory Tour 15th May WPG Welshpool, 16th May GSM Brecon............Market Intelligence 18th June Brecon, Newtown & Aberystwyth..............Introduction to Exporting & Factory Tour 15th May WPG Welshpool, 16th May GSM Brecon............



 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Cymorth Grantiau

ProAct Sgiliau Twf Cymru

Pecyn cymorth ariannol yw ProAct – Sgiliau Twf Cymru a’i nod yw helpu cwmnïau o Gymru i dyfu trwy ariannu hyfforddiant mewn sgiliau lefel uwch neu mewn technoleg newydd.

Mae cyllid ar gael i fusnesau preifat neu rai yn y trydydd sector sydd yn tyfu neu sydd wedi canfod cyfle clir i dyfu ac sy’n gallu manteisio arno. Os yw’ch cwmni chi wedi cael cyllid Ewropeaidd sylweddol yn ystod y tair blynedd diwethaf, dylech gysylltu â ni i weld a allech fod yn gymwys.

Cynigir £3,000 y person ar gyfartaledd i dalu am hyfforddiant mewn sgiliau lefel uwch neu mewn technoleg newydd a fydd o gymorth uniongyrchol i sicrhau twf mewn trosiant, elw a/neu gyflogaeth. Y bwriad yw adeiladu ar lwyddiant ProAct a helpu i adfywio’r economi.

Nid oes cymhorthdal cyflogau yn gysylltiedig â hyn ond bydd gweithwyr newydd yn elwa ar y cymorth tuag at hyfforddiant wrth i’r busnes dyfu os na fyddwch yn cael cymorth arall gan y llywodraeth. Byddwn hefyd yn ceisio’ch helpu i gael cymorth i recriwtio, gan ein gwasanaeth ReAct er enghraifft, os yw’n briodol.

Os hoffech ragor o wybodaeth, gallwch ffonio ein tîm Sgiliau.Pobl.Llwyddiant ar 0845 6066160 neu ebostio: ProActTeamMailbox@wales.gsi.gov.uk

Cynllun Gweithredu Diswyddiadau (ReAct)

Rhaglen ariannu hyfforddiant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru ac yn wynebu colli eu swydd yw’r Cynllun Gweithredu Diswyddiadau (ReAct). Hefyd, gall y cynllun helpu cyflogwyr sy’n lleihau maint eu busnes neu sy’n recriwtio staff.

Ceir cymorth o dan gynllun ReAct i unigolion sydd:

·        wedi cael eu gwneud yn ddi-waith yn y chwe mis diwethaf gan bod eu swydd wedi’i dileu, a’u bod  yn ddi-waith ar hyn o bryd, a heb fod mewn cyflogaeth ddi-dor am chwe wythnos neu fwy ers iddynt gael eu gwneud yn ddi-waith; neu

·        sydd wedi cael rhybudd swyddogol bod eu swydd yn cael ei dileu; ac

·        nad ydynt wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant wedi’i ariannu o’r pwrs cyhoeddus ers iddynt gael eu gwneud yn ddi-waith, yn cynnwys y gyfres rhaglenni dysgu seiliedig ar waith.

Mae ReAct yn cynnwys tair elfen:

·        Cymorth gyda Recriwtio a Hyfforddi

·        Grant Dewisol - Hyfforddiant Galwedigaethol

·        Grant Dewisol - Amrywiol 

Mae cymorth ar gael i ymgeiswyr cymwys i gynyddu eu sgiliau a goresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag dysgu neu ddychwelyd i weithio. Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant hwn yn rhoi’r cyfle gorau posibl iddynt ddod o hyd i swydd newydd, bydd Gyrfa Cymru yn asesu anghenion hyfforddi pob un o’r ymgeiswyr. Yn ogystal, bydd Gyrfa Cymru yn rhoi cyngor ynghylch cyrsiau hyfforddi a chanolfannau hyfforddi addas. O dan y rhan hon o’r cynllun, mae’r cymorth ariannol a ganlyn ar gael:

·        100 y cant o gostau hyfforddiant i ddysgu sgiliau newydd (hyd at uchafswm o £2,500)

·        help â chost offer arbennig sy’n angenrheidiol ar gyfer yr hyfforddiant

·        ad-dalu costau teithio i gyrsiau hyfforddi

·        costau llety dros nos, os yw’n briodol

·        cyfraniad at gost y defnyddiau sy’n angenrheidiol ar gyfer yr hyfforddiant

·        ad-dalu costau gofal plant (gyda therfynau ac amodau).

Cewch ragor o wybodaeth am ReAct gan y tîm ReAct yn Abertawe, o swyddfa leol Gyrfa Cymru neu gan Cyngor Dysgu a Gyrfaoedd ar 0800 100 900.

Mewn man gwan ar gyfer derbyn band eang?

Os na allwch gael gwasanaeth band eang eisoes neu os yw’r cyflymder yn llai na 512Kbps yn gyson, rydych yn byw mewn man gwan.

Fel rheol, mae mannau gwan ar gyfer derbyn band eang yn bell o’r gyfnewidfa ffôn.

Pan fydd ganddynt gysylltiad da â’r rhyngrwyd, mae pobl yn gallu byw bywydau llawnach a mwy diddorol ac mae busnesau’n gallu ehangu a chystadlu’n fwy effeithiol. Rydym yn benderfynol o helpu cymunedau lle mae’r angen mwyaf gan gynnig cymorth i unigolion a busnesau.

Mae’r Cynllun Cymorth Band Eang yn cynnig cymorth ariannol i brynu ffordd o gael gwasanaeth band eang ar gyflymder o 512Kbps neu fwy i unigolion, busnesau, cyrff trydydd sector a chymunedau. Bydd hyd at £1,000 o gymorth ar gael.

Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid eich bod naill ai’n methu cael gwasaneth band eang neu bod y cyflymder lawrlwytho o dan 512Kbps yn gyson.

Y Gronfa Fuddsoddi Leol

De Orllewin Cymru

Mae’r gronfa hon yn cynnig grantiau cyfalaf i fentrau lleol bach a chanolig eu maint, sy’n cynnwys busnesau newydd, busnesau sydd eisoes wedi’u sefydlu a mentrau cymdeithasol. Mae’r ceisiadau’n gorfod bodloni nifer o feini prawf a bydd pob achos yn cael ei ystyried ar wahân.

Mae grantiau cyfalaf o rhwng £1,000 a £5,000 ar gael i dalu hyd at 40% o gostau cymwys prosiectau.

Os teimlwch y byddai grant o fudd i’ch busnes chi, cewch ragor o wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael gan Michelle Davies, Asesydd Grantiau neu gallwch lenwi Ffurflen Mynegi Diddordeb yn www.lifcymru.org.uk

Ffôn: 01267 242389 / 07827 355013
11 Stryd y Popty, Aberystwyth SY23 2BJ
 e-bost: MichelleEDavies@carmarthenshire.gov.uk