Ein cenhadaeth
Bod yn rym canolog yn hybu busnesau yng Nghanolbarth Cymru.
Y Cwmnïau sy’n aelodau o’r Grŵp sy’n ei wneud yn gryf ac effeithiol. Maent yn cynrychioli busnesau gweithgynhyrchu a sectorau eraill o bob maint a phob math ledled y Canolbarth.
Rydym yn gorff unigryw sy’n cael ei redeg gan fusnesau er budd busnesau. Caiff MWMG ei redeg fel cwmni cyfyngedig preifat a’i ariannu trwy gyfuniad o ffioedd aelodaeth, cyllid o’r sector cyhoeddus a nawdd masnachol.
Mae gennym swyddfa yn y Drenewydd a chyfleusterau ar gyfer cynadleddau bach. Rydym yn ymgyrchu i sicrhau bod gan fusnesau lais pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar lefel leol a rhanbarthol.
Mae’r Grŵp yn aelod llawn o Fforwm Economaidd Canolbarth Cymru ac mae ganddo sedd ar Fwrdd Partneriaeth Adfywio Powys. Mae’r grŵp yn gweithio’n effeithiol gan gyflawni llawer. Pan sefydlwyd y grŵp ym 1994, Bwrdd Cyfarwyddwyr rhan amser oedd yn ei redeg ond erbyn hyn mae’n cyflogi pedwar aelod profiadol o staff llawn amser.
Caiff y Grŵp y clod am sefydlu’r rhaglen Prentisiaethau ar y Cyd a lansio ‘Methodolegau Diwastraff’ yn y canolbarth yn ogystal â helpu llawer o fusnesau bach a rhai newydd i dyfu mewn ffordd broffidiol.







