English   |   Cymraeg
A A A

Chwilio'r Wefan:

Handling Objections, Negotiating and Closing the Sale Accredited by the Institute of Sales and Marketing Management 11th & 12th April 2012, Newtown.........Handling Objections, Negotiating and Closing the Sale Accredited by the Institute of Sales and Marketing Management 11th & 12th April 2012, Newtown.........Handling Objections, Negotiating and Closing the Sale Accredited by the Institute of Sales and Marketing Management 11th & 12th April 2012, Newtown.........


Amdanom ni

Mae MWMG yn gwmni cyfyngedig preifat nid-er-elw sy’n cael ei lywio gan Fwrdd Cyfarwyddwyr a etholir o blith yr aelodau.

Ein cenhadaeth

Bod yn rym canolog yn hybu busnesau lleol.

Caiff MWMG ei ariannu trwy gyfuniad o ffioedd aelodaeth, cyllid o’r sector cyhoeddus a nawdd masnachol. Mae gennym swyddfa yn y Drenewydd a chyfleusterau ar gyfer cynadleddau bach.

Mae’r Grŵp yn aelod llawn o Fforwm Economaidd Canolbarth Cymru ac mae ganddo sedd ar Fyrddau Grŵp Adfywio Powys a Phartneriaeth Adfywio Powys. Mae’r grŵp yn gweithio’n effeithiol gan gyflawni llawer. Pan sefydlwyd y grŵp ym 1994, Bwrdd Cyfarwyddwyr rhan amser oedd yn ei redeg ond erbyn hyn mae’n cyflogi pedwar aelod profiadol o staff llawn amser.

Caiff y Grŵp y clod am sefydlu rhaglen arobryn Prentisiaethau ar y Cyd a lansio ‘Methodolegau Diwastraff’ yn y Canolbarth yn ogystal â helpu llawer o fusnesau bach a rhai newydd i dyfu mewn ffordd broffidiol.

Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru – Cwmni Cyfyngedig trwy Warant (No.02922322). Swyddfa Gofrestredig: Uned 7, St. Giles Technology Park, Pool Road, y Drenewydd, Powys, SY16 3AJ

 

Ein Staff a’n Cyfarwyddwyr

Ceri Stephens, Rheolwr y Grŵp

Bu Ceri gyda MWMG ers sefydlu’r Cynllun Prentisiaethau ar y Cyd ym 1997. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi helpu llawer o’n haelodau mewn gwahanol ffyrdd – o gael gafael ar ddefnyddiau, i sefydlu cadwyni cyflenwi lleol.   Erbyn heddiw, Ceri sy’n gyfrifol am oruchwylio prosiectau’r grŵp a chyflawni’r strategaeth ar ran y Bwrdd Cyfarwyddwyr.

 

John Brunt, Uwch Reolwr Rhwydweithiau

Mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad, bu’n gyfarwyddwr cwmni yn y diwydiant tecstilau ac yn Gynghorydd Busnes gyda’r Gwasanaeth Cynghori Gweithgynhyrchu. Mae ganddo chwe blynedd o brofiad o drefnu a hwyluso cyfarfodydd rhwydweithiau a datblygu cadwyni cyflenwi rhwng cwmnïau gweithgynhyrchu lleol.   Mae gan MWMG hanes hir o ddatblygu cadwyni cyflenwi rhwng cwmnïau gweithgynhyrchu lleol ac annog cydweithio a chydweithredu.

 

Julian Engleheart, Ysgrifennydd y Cwmni

Ymunodd Julian Engleheart (M.A. Oxon) â MWMG yn 2008.  Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cyllid ysgol annibynnol yn Swydd Amwythig.  Mae Julian yn awyddus i weld ardal sy’n agos at ei galon erioed yn ffynnu yn economaidd ac mae o’r farn bod gan y Grŵp ran allweddol i’w chwarae yn y broses hon. ‘Trwy gynnig arweiniad dyfeisgar ac ymroddgar a gwaith rheoli disgybledig heb ormod o waith papur, mae’r Grŵp yn gallu tyfu mewn maint a statws.’

 

Hannah Barrett, Cadeirydd

Hannah Barrett (BA Anrhydedd) yw Rheolwr Adnoddau Dynol cwmni deigastio alwminiwm dan wasgedd, Castalum Ltd. Mae’r cwmni o’r Trallwng yn cyflogi dros gant o bobl. Bu Hannah yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr MWMG ers 2007 ac fe’i gwahoddwyd i gynrychioli cyflogwyr gyda Buddsoddwyr mewn Pobl.

 

Jon Armitage, Is-gadeirydd

Bu Jon yn Brif Arolygydd gyda J Brockhouse Transmission yn Aberystwyth. Cychwynnodd ei gwmni ei hunan, Uniwire (AMS Ltd) ym 1982 a pharhau'n Gadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr tan 2003. Bu Jon yn Gadeirydd ar Glwb Busnes Aberystwyth hefyd ac mae'n un o Gyfarwyddwr MWMG ers 2001.

 

 

Robert Taylor, Cyfarwyddwr

Roedd Mr Taylor yn un o’r aelodau a sylfaenodd MWMG ac mae’n un o’r Cyfarwyddwyr.  Mae wedi bod yn Gadeirydd ac yn Ysgrifennydd y Cwmni yn ei dro.  Mr. Taylor yw Cadeirydd Contact Attachments. Sefydlodd y busnes ym 1974 a’i symud i’r Drenewydd, Powys ym 1980. Erbyn hyn, mae Contact yn gwmni blaenllaw yn marchnata a chynhyrchu gwahanol fathau o offer trafod mecanyddol.  Maent yn arbenigo mewn rhannau ar gyfer tryciau fforchgodi.

 

Des Preece MBE, Cyfarwyddwr

Rheolwr Prosiectau Systemau a Safonau gyda Brecon Pharmaceuticals Ltd yn y Gelli Gandryll. Roedd yn aelod o grŵp llywio cyntaf MWMG ac mae wedi gwasanaethu’r Grŵp yn ddi-dor ers ei sefydlu ym 1994. Mae’n un o Lywodraethwyr Coleg Powys ac yn Gyfarwyddwr gyda Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys. Cafodd yr MBE yn rhestr anrhydeddau’r Frenhines yn 2007 am ei “wasanaethau i fusnes a phobl ifanc yn y Canolbarth.”

 

Andrew Bebb, Cyfarwyddwr

(proffil i ddod)

Andrew Cook, Cyfarwyddwr

(proffil i ddod)