Aelodaeth Gyswllt
I Rai Nad Ydynt yn Weithgynhyrchwyr:
- Cyfarfodydd rheolaidd, di-dâl gyda siaradwyr arbenigol. Cyfle i glywed am yr arferion gorau diweddaraf a newidiadau mewn deddfwriaeth, wrth rwydweithio â chwmnïau sy’n aelodau
- Ymweliadau â ffatrïoedd i weld arferion gorau ar waith
- Cylchlythyrau rheolaidd yn rhoi gwybodaeth am yr aelodau, y Grŵp a’r byd gweithgynhyrchu
- Gellir cynnwys erthyglau a thaflenni yn y cylchlythyr am cyn lleied â £50.
- Caiff eich cwmni ei restru yn ein Cyfeiriadur, sef canllaw arbennig i weithgynhyrchu yn y Canolbarth. Mae ar gael ar bapur neu trwy ein gwefan
- Cymorth gyda phrosiectau i wella’r busnes, yn cynnwys meincnodi
- Ymweliadau di-dâl i gynnal adolygiadau cyflogaeth, cyllid, ac iechyd a diogelwch
- Gellir llogi ystafell gyfarfod am cyn lleied â £10.
- Tystysgrif Aelodaeth Gyswllt
Llanwch y ffurflen isod os hoffech i ni ystyried cais eich cwmni i fod yn aelod cyswllt. Pris aelodaeth gyswllt: £195 + TAW. Ar ôl i ni dderbyn y ffurflen isod, byddwn yn anfon anfoneb.







