English   |   Cymraeg
A A A

Chwilio'r Wefan:

Market Intelligence 18th June Brecon, Newtown & Aberystwyth..............Introduction to Exporting & Factory Tour 15th May WPG Welshpool, 16th May GSM Brecon............Market Intelligence 18th June Brecon, Newtown & Aberystwyth..............Introduction to Exporting & Factory Tour 15th May WPG Welshpool, 16th May GSM Brecon............Market Intelligence 18th June Brecon, Newtown & Aberystwyth..............Introduction to Exporting & Factory Tour 15th May WPG Welshpool, 16th May GSM Brecon............



 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Aelodaeth

Mae’r Grŵp yn cynnig Aelodaeth ar dair lefel:-

Aelodaeth Lawn ar gyfer Cwmnïau Gweithgynhyrchu

Aelodaeth Gyswllt ar gyfer cwmnïau eraill

Aelodaeth Fasnachol

Hoffem eich gwahodd i wneud cais i ymuno â’r Grŵp. Mae Aelodaeth Ddi-dâl ar gael i gwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghanolbarth Cymru yn unig. Mae’n golygu y bydd y manteision isod ar gael i chi tan 31/03/2011:

I Weithgynhyrchwyr:

1. Arbed Amser

  • Cyngor sut i gydymffurfio â deddfwriaeth ym maes Cyfraith Cyflogaeth, ac Iechyd a Diogelwch
  • Newyddion am gyfleoedd a grantiau
  • Gwasanaeth rhannu gwybodaeth
  • Cysylltiadau a gwybodaeth am bob agwedd ar y gwaith o redeg busnes

2. Sicrhau Arbenigedd

  • Rhwydweithio a Chysylltiadau Cyflenwi - cewch fanteisio ar arbenigedd yr aelodau eraill
  • Digwyddiadau rhwydweithio- y ffordd orau o wneud cysylltiadau busnes yn y Canolbarth
  • Ymweliadau di-dâl i adolygu eich busnes - cyflogaeth, iechyd a diogelwch, cyllid, cynhyrchiant a meincnodi
  • Gweithdai arferion gorau - cyfle i ddysgu gan siaradwyr arbenigol a ddewiswyd yn ofalus ac i rwydweithio gyda chwmnïau eraill er mwyn cyfnewid profiadau
  • Rhwydweithiau arbenigol ymhlith aelodau MWMG - mae gan ein haelodau gyfoeth o wybodaeth arbenigol i’w rannu

3. Arbed Arian £ a Gwella’r Canlyniadau

  • Gwirio cymalau a thorri costau
  • Cyfle i arbed arian ar wasanaethau proffesiynol a chostau busnes - yswiriant, pensiynau a buddsoddiadau, costau busnes a chyfleustodau, lesio cerbydau, cyllido asedau busnes
  • Gwirio polisïau
  • Cyd-hyfforddi - mae MWMG yn dyfeisio hyfforddiant pwrpasol a phenodol ar gyfer ei aelodau
  • Cyfleusterau cyfarfod - cewch logi ystafell gynadledda MWMG yn y Drenewydd, gyda digon o le i barcio am ddim, am cyn lleied â £10 am ddwy awr

4. Cyrraedd Penderfynwyr Allweddol

  • Mae aelodau’n cael manteision marchnata effeithiol
  • Cofnod am ddim yng Nghyfeiriadur MWMG
  • Erthyglau yng Nghylchlythyr MWMG
  • Cyfle i gynnal cyfarfod rhwydweithio
  • Staff MWMG yn cyfeirio pobl atoch dros y ffôn
  • Help i ddatblygu polisïau - mae MWMG yn cydweithio â’r llywodraeth i ddatblygu polisïau i wneud Cymru’n lle gwell ar gyfer busnes

5. Cynnig Aelodaeth am Ddim – Ymunwch â Phrif Rwydwaith Busnes y Canolbarth Heddiw

  • Mae MWMG yn cynnig aelodaeth am ddim i weithgynhyrchwyr y Canolbarth am gyfnod byr. Felly brysiwch, llanwch y ffurflen aelodaeth ar-lein trwy glicio ar y ddolen isod.

Ar gyfer Cwmnïau nad ydynt yn Gweithgynhyrchu (Aelodaeth Gyswllt):

  • Cyfarfodydd rheolaidd, di-dâl gyda siaradwyr arbenigol. Cyfle i glywed am yr arferion gorau diweddaraf a newidiadau mewn deddfwriaeth, wrth rwydweithio â chwmnïau sy’n aelodau
  • Ymweliadau â ffatrïoedd i weld arferion gorau ar waith
  • Cylchlythyrau rheolaidd yn rhoi gwybodaeth am yr aelodau, y Grŵp a’r byd gweithgynhyrchu
  • Gellir cynnwys erthyglau a thaflenni yn y cylchlythyr am cyn lleied â £50.
  • Caiff eich cwmni ei restru yn ein Cyfeiriadur, sef canllaw arbennig i weithgynhyrchu yn y Canolbarth. Mae ar gael ar bapur neu trwy ein gwefan
  • Cymorth gyda phrosiectau i wella’r busnes, yn cynnwys meincnodi
  • Ymweliadau di-dâl i gynnal adolygiadau cyflogaeth, cyllid, ac iechyd a diogelwch
  • Gellir llogi ystafell gyfarfod am cyn lleied â £10.
  • Tystysgrif Aelodaeth Gyswllt

Gwnewch gais ar-lein am:

Aelodaeth Lawn ar gyfer Cwmnïau Gweithgynhyrchu

Aelodaeth Gyswllt ar gyfer cwmnïau eraill

Aelodaeth Fasnachol